Tuesday 22 May 2012

#westernfail

Mae'r erthygl sydd ar glawr y Western Mail heddiw wedi cyffroi'r dyfroedd mewn sawl ffordd.  Dwi am drio cyfleu fy nheimladau yn gryno ac yn glir ar y pwnc.

Mae dwyieithrwydd yn egwyddor sy’n gyffredin  ledled y byd, ond sy’n gymharol newydd i ni yma yng Nghymru.  Sawl tro drwy hanes rydym wedi meddwl fod y frwydr am wasanaethau dwyieithog wedi ei hennill, ac yna cyhoeddir erthygl fel heddiw i’n hatgoffa ei fod yn frwydr gwbl gyfoes, ac yn frwydr sydd rhaid ei wynebu yn ddyddiol, hyd yn oed yn 2012.

Disgrifir Martin Shipton cyfieithu i’r Gymraeg fel ‘luxury’.  Dwi ddim yn cwestiynu ymroddiad Martin tuag at ddatganoli, nag ei hygrededd fel newyddiadurwr- rwyf wedi darllen ei lyfr am ddatganoli ac fe fwynheais yn fawr. Ond mae cyfeirio at y Gymraeg fel rhywbeth ‘moethus’ yn creu argraff o rywbeth dieithr, amherthnasol, a rhywbeth sydd yn cael ei gwarchod er lles y breintiedig (y Cymry  dosbarth canol).  Ac os mai poeni am wariant cyhoeddus yw’r pryder, mae sawl ffordd o dorri gwariant - £70bn ar trident, £15bn ar y gemau Olympaidd, £1.3bn ar y jiwbilî….

O edrych ar y stori o safbwynt anthropolegol, y mae’r hawl i dderbyn gwasanaethau yn eich mamiaith yn hawl sylfaenol a ddylai cael ei chynnig i ddinasyddion Cymru.  Efallai mai ond 23-24% sydd yn medru'r Gymraeg, ond mae hyn dal yn nifer sylweddol o’r boblogaeth.  Mae canran dipyn is o’r boblogaeth yn gaeth i gadair olwyn, ond rydym dal yn darparu rampiau tu allan i adeiladau a liffts ar eu cyfer.  Pam rydym ni’n gwneud hyn? Am ei fod yn hawl sylfaenol i addasu gwasanaeth oherwydd bod gan bobl gwahanol anghenion gwahanol.

Dim ond yng Nghymru y mae'r angen i gwestiynu a chyfiawnhau gwariant ar un o’r ieithoedd cenedlaethol. Y neges sy’n dilyn o hyn i gyd ydi fod yr iaith dal yn gallu rhannu pobl, lle ddylai iaith fod yn rhywbeth i’w fwynhau ac i uno pobl.

Mae cyfieithu’r dogfennau yma’n debygol o gostio £350,000 y flwyddyn.  Gyda phoblogaeth o 3miliwn, mae hyn yn gost o 11.6 ceiniog y pen i ddinasyddion Cymru.  I’w roi yn ei gyd-destun, fe fyddai bwyta un Curly wurly neu Chomp y flwyddyn yn costio mwy.

Felly, yn fy marn i mae’r ddadl yn un gwbl glir.  Os ydych yn cefnogi'r syniad o ddwyieithrwydd fe ddylech gefnogi'r cyfan sydd yn dod law yn llaw hefo’r egwyddor.  Y Cynulliad yw cartref ein Senedd genedlaethol, a dyna’r sefydliad uwchlaw unrhyw un arall yng Nghymru a ddylai fod yn arwain y ffordd i feithrin cenedl fodern, hyderus, dwyieithog.  Mae’r dyddiau lle mae Cymry Cymraeg yn gorfod ymddiheuro am ofyn am y Gymraeg wedi dod i ben, ac efallai y dylai rhywun egluro hyn i’r Western Mail.